Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Mai 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6325
------
Dechreuodd yr eitem am 13.33
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Dechreuodd yr eitem am 13.34
Dechreuodd yr eitem am 13.34
Cododd Adam Price bwynt o drefn yn gofyn i’r Llywydd ddefnyddio ei phwerau o dan Reol Sefydlog 12.17 neu 12.18 i newid trefn busnes heddiw neu ohirio’r cyfarfod dros dro er mwyn sicrhau cyfle i’r Aelodau astudio dogfen COVID-19 y Llywodraeth ‘Strategaeth Profi Olrhain Diogelu’, a gyhoeddwyd 8 munud yn unig cyn dechrau’r Cyfarfod Llawn, yn ymwneud â’r datganiad y byddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud.
Cafodd pwysigrwydd y ddogfen ei gydnabod gan y Llywydd a dywedodd ei bod yn arfer da i ddosbarthu datganiadau cyn iddynt gael eu rhoi, ond nid oedd yn credu ei bod yn briodol ar hyn o bryd i oedi’r datganiad.
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 14.48
Am 16.04 gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud.
Dechreuodd yr eitem am 16.16
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Daeth y cyfarfod i ben am 18.00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 20 Mai 2020